Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Medi 2019

Amser: 09.30 - 12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5770


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Alun Davies AC

Mike Hedges AC

Nick Ramsay AC

Mark Reckless AC

Tystion:

Dr Joachim Werner, London School of Economics

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Georgina Owen (Ail Glerc)

Samantha Williams (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Hawliau pleidleisio i garcharorion 23 Gorffennaf 2019

</AI3>

<AI4>

2.2   Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol - 19 Gorffennaf 2019

</AI4>

<AI5>

2.3   Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Mike Hedges - Cyfalaf trafodion ariannol - 16 Awst 2019

</AI5>

<AI6>

2.4   Llythyr gan Lywodraeth Cymru at y Gwir Anrhydeddus Nicky Morgan AS - Tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor y Trysorlys i anghydbwysedd rhanbarthol yn economi’r DU - 9 Awst 2019

</AI6>

<AI7>

2.5   Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - Cysylltiad ag Adroddiad cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol - 9 Awst 2019

</AI7>

<AI8>

2.6   Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i adroddiad y Pwyllgor ar graffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2019-20 - 19 Awst 2019

</AI8>

<AI9>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o ran o'r cyfarfod (Eitemau 4 – 9 ac 11 - 12)

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

4       Trafod y papur cwmpasu ar daliadau cadw yn y sector adeiladu

4.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar daliadau cadw yn y sector adeiladu a chytunwyd ar y dull ar gyfer yr ymchwiliad.

</AI10>

<AI11>

5       Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod yr ohebiaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y Bil  Senedd ac Etholiadau (Cymru).

</AI11>

<AI12>

6       Swyddfa Archwilio Cymru - Astudiaeth gwerth am arian: Lwfansau teithio

6.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 18.11 (ii), cymeradwyodd y Pwyllgor yr ymchwiliad arfaethedig i drefniadau teithio a chynhaliaeth Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraff 35 (7) o Atodlen 1 y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

</AI12>

<AI13>

7       Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Penodi cynghorydd arbenigol

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi cynghorydd arbenigol.

</AI13>

<AI14>

8       Trafod y flaenraglen waith

8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

</AI14>

<AI15>

9       Trafod llythyr gan y Llywydd – Y Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a diwygio Rheolau Sefydlog

9.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

</AI15>

<AI16>

10    Ymchwiliad i broses cyllideb ddeddfwriaethol: Sesiwn dystiolaeth 4

10.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Joachim Wehner, Athro Cyswllt mewn Polisi Cyhoeddus, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain, ar y broses cyllideb ddeddfwriaethol.

</AI16>

<AI17>

11    Ymchwiliad i broses cyllideb ddeddfwriaethol: Trafod y dystiolaeth

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI17>

<AI18>

12    Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 - 13 Medi 2019

12.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>